2014 Rhif 1772 (Cy. 183)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae diwygiadau a wnaed i adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Newidiadau Amherthnasol a Chywiro Gwallau) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1770 (Cy.182)) yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru wneud newidiadau amherthnasol i ganiatadau cynllunio sy’n ymwneud â thir yn eu hardal.

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/801 (Cy. 110)) i wneud darpariaeth ynglŷn â’r ffurf a’r modd y gwneir ceisiadau. Mae’r Gorchymyn hefyd yn gosod gofynion ar awdurdodau cynllunio lleol ynglŷn ag ymgynghori a chyhoeddusrwydd.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn perthynas â’r offeryn hwn. Gellir cael copïau ohono o Is-adran Cynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2014 Rhif 1772 (Cy. 183)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                             3 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       7 Gorffennaf 2014

Yn dod i rym                              1 Medi 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]) ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69([2]) a 333 o’r Ddeddf honno ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([3]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2014 a daw i rym ar 1 Medi 2014.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i’r holl dir yng Nghymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

2.(1)(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012([4]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl erthygl 28 mewnosoder—

Ceisiadau am newidiadau amherthnasol  i ganiatâd cynllunio

28A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i gais a wneir o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau amherthnasol i ganiatâd cynllunio).

(2) Rhaid i gais y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo gael ei wneud i’r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen ar y ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(3) Caniateir rhoi cyhoeddusrwydd i gais am newidiadau amherthnasol i ganiatâd cynllunio, gan yr awdurdod cynllunio lleol, drwy roi hysbysiad—

(a)   drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 14 diwrnod; neu

(b)  drwy gyflwyno’r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.

(4) Os caiff yr hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu’i ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 14 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a) wedi dod i ben, a hynny pan nad oedd unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn y paragraff hwnnw, os cymerodd gamau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac i’w ailosod pe bai angen.

(5) Cyn penderfynu cais, caiff awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag unrhyw awdurdod, corff neu berson yr ymgynghorwyd ag ef yn unol ag erthygl 14 cyn rhoi’r caniatâd cynllunio.

(6) Pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff  (3) neu os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi ymgynghori yn unol â pharagraff (5), rhaid i’r awdurdod, wrth benderfynu cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau gyda’r  dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

(7) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad ar y cais i’r ceisydd o fewn 28 diwrnod ar ôl cael y cais neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod.

(3) Yn erthygl 29, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i Ran 2 gynnwys hefyd yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob cais a wneir o dan erthygl 28A mewn perthynas â’i ardal—

(a)   copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o’r cais ynghyd ag unrhyw blaniau a lluniadau a gyflwynwyd gydag ef; a

(b)  penderfyniad yr awdurdod, os gwnaed un, mewn perthynas â'r cais, dyddiad y cyfryw benderfyniad ac enw'r awdurdod. 

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

 

3 Gorffennaf 2014

 

 



([1])           1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 96A gan adran 190(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Newidiadau Amherthnasol a Chywiro Gwallau) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1770 (Cy.182)).

([2])           Amnewidiwyd adran 69 gan adran 118 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, ac fe’i diwygiwyd gan adran 190 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29).

([3])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 333 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

([4])           O.S. 2012/801 (Cy. 110). Gwnaed diwygiadau i’r Gorchymyn hwn, ond nid oes yr un o’r diwygiadau yn berthnasol.